1 Dauydd pam nad edifar
2 dyfu'r hynn a fu o far
3 rhoed athrod annod ynni
4 rho Duw mawr yrhod a mi
5 credaist ef croyw dyst over
6 crediad yw a glyw y gler
7 dwyoch ym om dychymig
8 o'm dawr i digoni dig
9 mawr yw gennyd dy vryd vry
10 mwyvwy dy son a myvy
11 a bychan a rybuchud
12 ym o gerdd rym agwrdd ddrud
13 amlwg dy chwant i ymladd
14 aml am ras yw, aml am radd
15 om nwyf nid arhowyr haf
16 a chael vy mvn ochiliaf
17 er vngwr oerwr enbyd
18 droedvedd na modvedd ymyd
19 mawr dy son am ddigoni
20 meddud dewr ytoedduti
21 [359] dewis dauydd a dywaid
22 ym beth a vynnych ne baid
23 ai ymsang wr eang wg
24 am radd ai ymladd amlwg
25 ai ymdonniog ymdynv
26 dros dan wr trahaus du
37 down i gyd gwyr dinag ym
38 a deugledd yn odowglym
39 prif enw'n dysc provwn yn dau
40 pa wr ymrwydr pwy orau
41 Dauydd obeiddir dyvod
42 a main gledd omynni'r glod
43 Duw a ran rhwng dau angerdd
44 dyred ir cyrch daradr cerdd
45 aed i ddiawl dragwyddawl dro
46 i galon vevl a gilio
47 trwch iawn ith varnaf Ddauydd
48 tristau Dyddgu or dydd
49 didrwch wyf fieiddiwyf fo
50 didrist Weirvil om didro
51 gwae ddyddgu ddyn weddeiddgall
52 gwynvyd Gweirvyl ni wyl wall
53 llew ydwyf rhwysg llo ydwyd
54 cyw'r eryr wyf cyw'r iar wyd
55 a dewr ydwyf a diriaid
56 a rhwysg bonheddig yn rhaid
57 a cherdd ben ysydd gennyf
58 a chryg i'm galwant a chryf
59 ac ni'm dawr newydd vawr nwyf
60 byth yn ol beth a wnelwyf
61 o thrawaf eb ethrewyn
62 a min vynghledd dannedd dyn
63 bychan iawn o rybuched
64 a geid gennyf o ged
69 anodd i brydydd vnig
70 ymwrdd a dyn agwrdd a dig
65 medr bwyll gyd a mydr oben
66 mogel nid mi Rys Meigen
Gruffy' Gryg
Nodiadau
Ysgrifennwyd 'Drwg yw'r papyr' ar t. 358